Ailgylchu plastig yw'r broses o adfer plastig sgrap neu wastraff ac ailbrosesu'r deunydd i greu cynhyrchion defnyddiol. Gan nad yw'r mwyafrif o blastig yn fioddiraddiadwy, mae ailgylchu yn rhan o ymdrechion byd-eang i leihau plastig yn y ffrwd wastraff, yn enwedig yr oddeutu 8 miliwn tunnell o wastraff plastig sy'n mynd i'r môr bob blwyddyn.
O gymharu ag ailgylchu enillfawr metel, a gwerth isel tebyg gwydr, mae ailgylchu polymerau plastig yn aml yn fwy heriol oherwydd dwysedd isel a gwerth isel. Ceir hefyd llawer o rwystrau technegol i'w goresgyn wrth ailgylchu plastig.
Pan gaiff gwahanol fathau o blastigion eu toddi gyda'i gilydd maent yn dueddol o wahanu, fel olew a dŵr, a setio yn yr haenau hyn. Mae ffiniau'r sylweddau yn achosi gwendidau strwythurol yn y deunydd terfynol, sy'n golygu bod cyfuniadau polymer ond yn ddefnyddiol ar gyfer defnydd cyfyngedig. Mae'r ddau blastig sy'n cael eu cynhyrchu fwyaf, polypropylene a polethylen, yn ymddwyn yn y modd hwn, sy'n cyfyngu'r gallu i'w ailgylchu. Yn ddiweddar, cynigiwyd y defnydd o copolymerau bloc fel "pwythau moleciwlaidd" neu "fflwcs weldio macromoleciwlaidd" wedi'i gynnig er mwyn goresgyn yr anawsterau sy'n gysylltiedig â rhannu sylweddau yn ystod ailgylchu.
Gellir cynyddu'r canran o blastig y gellir ei ailgylchu'n llawn, yn hytrach na'i dorri i lawr neu ei adael yn wastraff, pan fo gweithgynhrychwyr deunyddiau wedi'u pecynnu yn cyfyngu ar gymysgu deunyddiau ecynnu a a chyfyngu ar halogion. Mae'r Gymdeithas Ailgylchwyr Plastigion wedi cyhoeddi "Canllaw Dylunio ar gyfer Ailgylchadwyedd".
Mae'r defnydd o blastigion bioddiaraddadwy yn cynyddu.